Mandrake Linux Gwybodaeth am Osod Ffurfweddiad Angenrheidiol * Prosesydd Pentium neu gyfatebol * Gyrrwr CDROM * O leiaf 32 MB RAM, argymhellir 64 MB Mae gosod MandrakeLinux, yn y rhan fwyaf o achosion mor syml â rhoi eich CD Gosod yn eich gyrrwr CDROM, ac ail gychwyn eich peiriant. Darllenwch bwynt 1. NODYN: * Os ydych yn uwchraddio o fersiynau MandrakeLinux 7.0, 7.1, 7.2 neu 8.0, peidiwch anghofio a gwneud copi o'ch system wrth gefn. * NID oes cefnogaeth i uwchraddio fersiynau cynt (cyn 7.0). Yn yr achosion hynny, gwnewch osodiad newydd ac nid uwchraddio. ============================================================================ Mae modd i chi hefyd osod MandrakeLinux ar i system Windows 95/98/ME, gan ddefnyddio Linux for Windows. Nid yw hyn yn gofyn am rannu'r disg ac mae'n gosod Linux mewn ffolder Windows. Mae'n ffordd hwylus i ddarganfod MandrakeLinux heb fod wedi newid eich system Windows. Er hynny, mae'n sylweddol arafach na gosodiad arferol. Hefyd, bydd eich gosodiad MandrakeLinux yn cael ei golli os fyddwch yn ailosod Windows. Ewch i bwynt 2 i ddefnyddio Linux for Windows. Dyma ffyrdd gwahanol i osod MandrakeLinux: 1. Cychwyn yn syth o'r CD 2. Gosod o fewn Windows 95/98/ME 3. Gwneud disg cychwyn gyda Windows 4. Dulliau eraill o osod ============================================================================ 1. Cychwyn yn syth o'r CD Mae modd cychwyn y gosodiad drwy'r CDROM Gosod. Yn yr rhan fwyaf o achosion, rhowch y CD yn y gyrrwr ac ailgychwynnwch y peiriant. Dilynwch y cyfarwyddid ar y sgrin: gwasgwch [Enter] i gychwyn gosod, neu [F1] am gymorth pellach. NODYN: Ar rai cyfrifiaduron symudol, ni fydd y system yn ailgychwyn o'r CD. Os mae hyn yn digwydd, dylech baratoi disg cychwyn. Gweler pwynt 3 am fanylion. ============================================================================ 2. Gosod o fewn Windows 95/98/ME I osod MandrakeLinux o fewn ffolder Windows, i osgoi unrhyw rhannu disgiau, dylech: 1. Gosod y CD cyntaf yn y gyrrwr, 2. Ail gychwyn y system, 3. Pwyso [F1] pan mae sgrin MandrakeLinux yn ymddangos, 4. Teipio lnx4win wrth y cyrchwr, yna pwyso [Enter] Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am lnx4win i'w cael ar y ffeil darllen perthnasol. NODYN: Wrth rhoi'r CD i fewn o dan Windows, bydd ffenestr yn codi i rhoi crynodeb o'r gosod ac i diwtorialau ac arddangosiad o MandrakeLinux. Bydd hefyd yn caniatáu i chi greu'r disg cychwyn fel yn ôl pwynt 3. Os nad yw'r ffenestr yn codi, rhedwch: D:\dosutils\autorun.exe (gan gymryd mai D yw llythyren gyrrwr eich CDROM). ============================================================================ 3. Gwneud disg meddal cychwyn gyda Windows Os nad yw eich cyfrifiadur yn medru cychwyn gyda'r CDROM ac ni wnaeth y dulliau blaenorol weithio, rhaid i chi wneud disg cychwyn gyda Windows. Dyma sut mae gwneud: * rhowch y CDROM yn y gyrrwr, cliciwch ar eicon "My Computer" , clic de ar eicon gyrrwr y CD a dewis "Open" * mynd i gyfeiriadur "dosutils" a rhoi clic dwbl ar eicon "rawwritewin" * rhowch ddisg meddal gwag yn ei yrrwr * dewiswch "D:\images\cdrom.img" ym maes "Image File" (gan gymryd mae "D" yw eich CDROM, neu newidiwch ef yn ôl y galw) * dewiswch "A:" ym maes "Floppy Drive" ac yna clicio "Write" . I gychwyn y gosodiad: * rhoi'r CDROM yn y gyrrwr, yn ogystal â'r disg cychwyn, ac yna * ail gychwyn y cyfrifiadur. ============================================================================ 4. Dulliau eraill o osod Os am unrhyw reswm nid yw'r dulliau blaenorol yn ateb eich angen (rydych am wneud gosodiad rhwydwaith, gosod o ddyfais pcmcia neu...), bydd angen i chi hefyd wneud disg cychwyn: * O dan Linux (neu unrhyw system UNIX fodern) teipiwch wrth yr anogwr: $ dd if=xxxxx.img of=/dev/fd0 * O dan Windows, dilynwch y dull disgrifiwyd ym mhwynt 3, ond gan ddefnyddio xxxxx.img (gweler isod) yn lle cdrom.img . * O dan DOS, gan gymryd mai D yw gyrrwr eich CD, teipiwch: D:\> dosutils\rawrite.exe -f images\xxxxx.img -d A Dyma restr o ddelweddau cychwyn: cdrom.img gosod o'r CD-ROM hd.img gosod o'r disg caled network.img gosod o ftp/nfs/http usbnet.img eto, ond gan ddefnyddio pcimca other.img gosod a chynnwys gyrrwy anaml eu defnydd pcmcia.img gosod o ddyfais pcmcia blank.img gosod eich cnewyllyn Linux eich hun Y ddelwedd leiaf yw blank.img ar gyfer gosod cnewyllyn addasedig ============================================================================ Mae modd ii chi hefyd ddefnyddio'r modd testun i osod os ydych yn cael anhawster, am ryw reswm, gyda'r gosod graffigol rhagosodedig. I'w ddefnyddio pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu MandrakeLinux, ac yna teipiwch text wrth yr annogwr. Os fyddwch byth angen achub eich system MandrakeLinux, rhowch eich CDROM Gosod (neu'r disg cychwyn perthnasol) yn y peiriant, pwyswch [F1] wrth sgrin croesawu MandrakeLinux, ac yna teipiwch rescue wrth yr anogwr. Gweler http://www.linux-mandrake.com/drakx/README am ragor o wybodaeth dechnegol. ============================================================================ Prif gamau'r gosodiad: 1. Rhowch eich CDROM Gosod neu (neu ddisg cychwyn, yn ôl y galw) ac ail gychwyn eich peiriant. 2. Pwyswch [Enter] pan fydd sgrin croesawu MandrakeLinux yn ymddangos a dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus. 3. Pan fydd y gosodiad wedi ei gwblhau tynnwch y CD o'r peiriant pan fydd wedi cael ei fwrw allan (ac unrhyw ddisg meddal os yw'n y gyrrwr); bydd eich peiriant yn ail gychwyn. Os nad, cychwynnwch y peiriant gyda llaw. 4. Bydd MandrakeLinux yn cychwyn. Ar ôl iddo gychwyn bydd modd i chi fewngofnodi o dan eich enw eich cyfrif neu fel "gwraidd" (root). Nodyn pwysig: Mae'r cyfrif "gwraidd" yn rhoi mynediad dilyffethair i'ch system Linux. Peidiwch â'i ddefnyddio oni bai eich bod eisiau ffurfweddu neu weinyddu Linux. Ar gyfer defnydd bob dydd. Mae modd ffurfweddu'r cyfrif gyda "userdrake" , neu gyda gorchmynion "adduser" a "passwd" . Pob hwyl gyda MandrakeLinux ! ============================================================================ Am gefnogaeth gyda'r gosod, gweler rhestr wybodaeth MandrakeLinux a'r FAQs ar safle gwe: * http://www.linux-mandrake.com/ ============================================================================